Plaid Cymru yn mynnu atebion ynghylch graddau TGAU annisgwyl o isel

14/03/2014

Mae Gweinidog Addysg cysgodol Plaid Cymru Simon Thomas AC wedi mynnu atebion gan Lywodraeth Cymru ynghylch graddau TGAU annisgwyl o isel mewn Saesneg yn arholiadau modiwl mis Ionawr.

Mae prifathrawon wedi eu dychryn gan y graddau annisgwyl o isel mewn TGAU Iaith Saesneg, sydd yn anghydnaws â disgwyliad eu staff eu hunain.

Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru fod 117 o ysgolion wedi gweld graddau gydag o leiaf hanner gradd o wahaniaeth rhyngddynt â’r disgwyliadau.

Mae’r Gweinidog Addysg cysgodol wedi cyflwyno cwestiwn brys er mwyn mynd at wraidd y llanast diweddaraf.

Meddai AC Plaid Cymru dros y Canolbarth a’r Gorllewin, Simon Thomas, wrth siarad yn y Senedd:

“Dyma’r ail waith i Lywodraeth Cymru fel rheoleiddiwr arholiadau Cymru gymryd cam gwag.

“Mae popeth yn ddryswch yn awr. Dywedodd y Prif Weinidog wrthym fod y marcio newydd yn dilyn safonau llymach mewn sillafu a gramadeg, ac eto, dyma’r Gweinidog Addysg yn dweud wrthym ddydd Gwener na fu unrhyw ail-raddnodi safonau. All y ddau ddim bod yn gywir.

“Crybwyllodd y ddau Weinidog ychydig o ysgolion, er bod data CBAC wedi nodi 117 o sefydliadau yr effeithiwyd arnynt. Rwyf yn derbyn gwybodaeth gyson gan brifathrawon sydd â’u staff a’u disgyblion wedi digalonni yn lân.

“Y TGAU hwn mewn Saesneg yw’r arholiad cyntaf mewn pwnc craidd a grëwyd yng Nghymru. Wedi ei osod gan Lywodraeth Cymru; wedi ei ddysgu yn yr ysgolion; wedi’i arholi gan CBAC; ei reoleiddio gan y llywodraeth a’i farcio yng Nghymru.

“Mae’r peth yn llanast llwyr. Unwaith eto, mae safonau, dibynadwyedd ac ansawdd arholiadau Cymru yn y newyddion. Dyw hyn yn gwneud dim da i’n pobl ifanc.

“Nawr dyw athrawon, rhieni na disgyblion ddim yn deall ffiniau’r graddau nac yn gwybod beth ydynt ar gyfer arholiadau’r haf.

“Yr unig ffordd i unioni hyn yw trwy ail-farcio, ail-raddio neu gael pawb i ail-eistedd. Gallai hyn olygu ymyrraeth wleidyddol â ffiniau arholiadau eto, a dyw hyn ddim yn dderbyniol.

“Rhaid i ni symud cyn gynted ag sydd modd at reoleiddiwr arholiadau hollol annibynnol yng Nghymru. Ddylai Gweinidogion fyth benderfynu ar raddau. Rhaid i’r Gweinidog ofyn a yw ei adran yn atebol i’r dasg o gyflwyno pum TGAU newydd i ysgolion Cymru. Gall gradd wael mewn Saesneg TGAU newid bywyd plentyn. Mae hyn yn rhy bwysig i’r Gweinidog amddiffyn swyddogion y llywodraeth neu gelu’r gwir.