Treth triwantiaeth yn loteri cod post

19/11/2014

Mae cais Rhyddid Gwybodaeth gan Blaid Cymru wedi datgelu agwedd dameidiog at y dirwyon newydd o £120 i rieni plant sy’n cau mynd i’r ysgol. Bu’r dirwyon, a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd, yn amhoblogaidd gyda grŵp o rieni yn y gorllewin sy’n eu gwrthwynebu.

O’r 22 cyngor Cymreig a ymatebodd i’r cais Rhyddid Gwybodaeth, roedd 4 wedi cychwyn cyhoeddi rhybuddion cosb ym mis Medi eleni; dechreuodd 2 ym mis Hydref, 1 y mis nesaf a bydd 6 chyngor yn cyflwyno dirwyon am golli’r ysgol ym mis Ionawr 2015.

Mae un cyngor yn ymgynghori ar y mater, a chabinet cyngor arall yn trafod y pwnc.

Bydd cynghorau yng nghonsortiwm Addysg trwy Weithio Rhanbarthol sydd yn cynnwys siroedd Caerfyrddin, Penfro, Ceredigion, Powys, Castell Nedd Porth Talbot ac Abertawe, yn dechrau codi ar rieni ym mis Ionawr.

Dywedodd Gweinidog Addysg cysgodol Plaid Cymru Simon Thomas:

“Mae rhieni yn Sir Benfro, yn ogystal â llywodraethwyr pryderus, wedi cysylltu â mi am eu bod yn pryderu am hyn. Wrth gwrs, byddai llywodraeth Plaid Cymru yn gwneud i ffwrdd â’r dreth driwantiaeth hon. Os oedd Llywodraeth Cymru mor argyhoeddedig o lwyddiant honedig yr agwedd hon, pam nad ydynt yn gorfodi cynghorau i osod y dirwyon hyn ar rieni?

“Dywedodd pwyllgor trawsbleidiol o’r Cynulliad Cenedlaethol nad dyma’r ffordd fwyaf effeithiol i drin triwantiaeth.

“Dywedodd y corff addysg Estyn fod presenoldeb mewn ysgolion uwchradd wedi gwella dros y pum mlynedd diwethaf.

“Canfu adroddiad Estyn fod angen gwella cyfraddau absenoldeb disgyblion mewn grwpiau bregus a disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim, gan fod eu cyfraddau bron ddwywaith cyfradd disgyblion eraill. Mae plant sy’n derbyn prydau ysgol am ddim yn fwy tebyg o fod yn absennol yn gyson ac o danberfformio.

“Mae Plaid Cymru eisiau torri’r cyswllt rhwng amddifadedd a chyrhaeddiad isel yn yr ysgol, ond i hyn ddigwydd, rhaid ymdrin â’r mater yn uniongyrchol.

“Mae gweithio gyda’r plentyn yn fwy na’i gael i ymddangos wrth glwyd yr ysgol. Rhaid i ni ofyn pam eu bod yn triwanta o’r ysgol a sut y gallwn ni eu helpu.

“Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn codi safonau ac yn trin triwantiaeth trwy gefnogi pobl. Mae camau fel defnyddio swyddogion cyswllt cartref ac ysgolion a gwell cyfathrebu rhwng ysgolion a theuluoedd megis anfon negeseuon testun at rieni yn gallu bod yn effeithiol iawn o ran codi lefelau presenoldeb.”